Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi mynd o dan y lach dros sylwadau “hiliol” ar Twitter.

Mewn sylw mae’n galw ar bedwar o bobol i fynd yn ôl adref i drwsio eu gwledydd toredig eu hunain.

Dim ond un o’r gwleidyddion hynny sydd wedi’u geni dramor, a’r lleill wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau.

Nawr mae nifer o’r Democratiaid yn beirniadu sylwadau Donald Trump, tra mae’r Gweriniaethwyr yn aros yn dawel.

Er nad oedd Mr Trump wedi enwi’r pedwar, mae bron yn sicr yn cyfeirio at gynghreiriaid Alexandria Ocasio-Cortez o Efrog Newydd, Ilhan Omar o Minnesota, Ayanna Pressley o Massachusetts a Rashida Tlaib o Michigan.

Dim ond Ms Omar, o Somalia, sy’n enedigol o dramor.