Mae naw o geirw wedi marw mewn parc yn Japan ar ôl bwyta cynnyrch plastig.
Gall ymwelwyr â pharc Nara fwydo’r anifeiliaid ond yn aml, maen nhw’n cario’r bwyd mewn bagiau plastig.
Yn ôl arbenigwyr, roedd gan naw allan o’r 14 o geirw fu farw yno ers mis Mawrth blastig yn eu stumogau.
Yn yr achos mwyaf difrifol, roedd gan un carw werth 4.3kg o blastig yn ei stumog.
Yn ôl adroddiadau, roedd un milfeddyg yn gallu teimlo esgyrn y ceirw gan eu bod nhw mor denau o ganlyniad i’r plastig, sy’n effeithio ar system dreulio’r anifeiliaid.
Mae ceirw’n anifeiliaid sy’n cael eu cysylltu â chrefydd Shinto yn y wlad.