Fe fydd ‘Awr Dawel’ yn siop Clwb Pêl-droed Abertawe nos yfory (nos Iau, Gorffennaf 11) er mwyn helpu cefnogwyr sydd ag awtistiaeth, gorbryder a chyflyrau eraill sy’n effeithio’u hyder.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 5-6yh, yn dilyn ymgynghoriad â Chymdeithas Cefnogwyr Anabl y clwb.
Fel rhan o’r digwyddiad, fydd dim cerddoriaeth yn cael ei chwarae yn y siop, bydd setiau teledu’n cael eu diffodd a goleuadau’n cael eu pylu.
“Diben yr Awr Dawel yw darparu amgylchfyd llonydd, llai bygythiol, yn ogystal â chyfle gwych i’r clwb godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth staff Clwb Pêl-droed Abertawe a’r Jack Army am yr heriau sy’n wynebu ein cefnogwyr anabl,” meddai Mark Phillips, Swyddog Mynediad Anabl y clwb.
“Tra bod yr Awr Dawel o fudd i’r sawl sydd ag awtistiaeth, mae hefyd yn helpu’r rheiny a all fod yn dioddef o orbryder ac yn ei chael yn anodd mewn mannau prysur.
“Fel clwb, dw i a Catherine Thomas [pennaeth gwasanaethau cwsmeriaid a lletygarwch] yn aml yn cwrdd â Chymdeithas y Cefnogwyr Anabl er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud i wella hygyrchedd.
“Mae cyflwyno’r Awr Dawel yn dangos angerdd ac ymroddiad y clwb a Chymdeithas y Cefnogwyr Anabl i helpu cefnogwyr ag anableddau.”