Mae corff dynes o Dde Corea wedi cael ei adnabod yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a llong ar afon Donaw ym mis Mai.
Bu farw o leiaf 27 o bobol yn y digwyddiad.
Cafwyd hyd i’w chorff ym mhentref Makad, 36 milltir i ffwrdd o’r fan lle tarodd y cwch a’r llong yn erbyn ei gilydd ger pont yn ninas Bwdapest yn Hwngari ar Fai 29.
Bu farw 25 o bobol o Dde Corea, ynghyd â dau aelod o’r criw o Hwngari.
Mae un person o Dde Corea yn dal ar goll, ond cafodd saith o bobol eu hachub.
Capten y llong o’r Wcráin yw’r unig berson sy’n destun ymchwiliad ar hyn o bryd.