Yn Ffrainc, mae streic gan undebau sy’n gwrthwynebu mesurau llym i arbed costau wedi cau rhai ysgolion ac amharu ar y gwasanaethau tren heddiw.
Dywed Llywodraeth yr Arlywydd Nicolas Sarkozy bod y mesurau yn angenrheidiol er mwyn gostwng dyledion y wlad.
Yn ôl y streicwyr, mae’r toriadau wedi achosi caledi mawr i rai sectorau a gweithwyr ac mae nhw’n dweud y dylai’r cyfoethog gyfrannu mwy.
Dywedodd y cwmni rheilffordd cenedlaethol SNCF bod un o bob pedwar o’u trenau TGV wedi eu canslo o ganlyniad i’r streic. Roedd 200 o brotestiadau wedi eu trefnu mewn dinasoedd ar hyd a lled Ffrainc heddiw.