Mae rhai o arweinwyr y blogosffer Cymreig wedi galw ar bobol i gefnogi deiseb yn galw am roi blaenoriaeth i bobol leol wrth osod tai cymdeithasol.
Mae Royston Jones, sy’n blogio dan yr enw Jac o’ the North, wedi agor e-ddeiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i bobol leol yn y system pwyntiau sy’n penderfynu pwy sydd i dderbyn tai cymdeithasol.
Mae’r e-ddeiseb yn cael ei chynnal ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae’n galw ar y Llywodraeth i fynnu bod person wedi bod yn byw mewn ardal ers pum mlynedd cyn eu bod nhw’n cael hawl ar dai cymdeithasol yr ardal.
Un o’r problemau gyda’r system ar hyn o bryd, meddai Alwyn ap Huw, y blogiwr tu ôl i Hen Rech Flin sy’n cyd-fynd â’r ymgyrch, yw bod pobol sydd wedi bod i’r carchar yn cael blaenoriaeth yn y system pwyntiau, dros deulu ifanc lleol sy’n chwilio am gartref.
Yn ôl Alwyn ap Huw, mae “nifer o gwynion ynglŷn â sut mae pobol yn cael tai yng Nghymru – a’r system bwyntiau yw’r broblem yn y pendraw.”
Dywedodd y blogiwr a’r ymgyrchydd wrth Golwg360 ei bod hi’n annerbyniol bod “rhywun sydd wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn cael mwy o bwyntiau ar y system na theulu ifanc sy’n chwilio cartref.”
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn penderfynu ar eu system bwyntiau eu hunain, yn ôl Alwyn ap Huw – sy’n cefnogi galwadau’r ddeiseb sydd eisoes wedi denu dros 70 o lofnodion ers ei lansio ddydd Gwener.
Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i ddeddfu’n uniongyrchol dros faterion yn ymwneud â thai ers mis Mawrth eleni.
‘Strategaeth ar fai’
Yn y datganiad sy’n cyd-fynd â’r ddeiseb ar wefan Llywodraeth Cymru, mae Royston Jones yn beirniadu’r ffaith y gall “unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru.
“Mae’r sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau sy’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl sy’n byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas, a phobl a gafodd eu rhyddhau’n ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati,” ychwanega.
“Ar yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol.”
Mae Golwg 360 yn dal i ddisgwyl ymateb gan Gartrefi Cymunedol Cymru.