Mae straen a phwysau gwaith ar athrawon wedi cynyddu o leiaf 14% yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ystod 2009/10 – fe wnaeth athrawon yng Nghymru gymryd dros 60,000 o ddiwrnodau i ffwrdd oherwydd pwysau, yn ôl ffigyrau gan y Ceidwadwyr Cymreig.
O’r 14 awdurdod lleol oedd wedi cynnig ystadegau, roedd naw wedi gweld cynnydd rhwng 2009/2010 – ac mae nifer y dyddiau gafodd eu cymryd i ffwrdd oherwydd pwysau wedi cynyddu o 20,968 i 24,079.
‘Problem gudd’
Fe ddywedodd Angela Burns, AC fod y niferoedd hyn yn “anferth” a’u bod yn cynrychioli problem gudd i athrawon a’r system addysg yn ei gyfanrwydd.
“Mae’n straeon a phwysau sy’n ddigon amlwg i gadw athrawon gartref am ddiwrnod yn unig yn haeddu sylw,” meddai.
“Mae colli degau ar filoedd o ddiwrnodau yn sefyllfa sydd angen sylw brys Gweinidogion” meddai gan ddweud bod pwysau o’r fath yn “afiach”.
“Mae ein hathrawon yn gwneud swydd amhrisiadwy ac maen nhw’n haeddu cymaint o gefnogaeth ac sy’n bosibl. Mae’r ffigyrau hyn yn cwestiynu ydi’r drefn mewn lle yn gweithio.”