Cheryl Gillan
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi aelodaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru heddiw.
Cyn-swyddog y Cynulliad, Paul Silk, fydd yn cadeirio’r comisiwn fydd yn edrych ar sut y mae’r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd yn cael ei hariannu.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan heddiw, gan wireddu un o addewidion Cytundeb y Glymblaid yn San Steffan.
Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i godi trethi, ac mae’r holl arian a ddaw o’r pwrs cyhoeddus i Gymru yn cael ei basio ymlaen gan Drysorlys San Steffan.
Aelodau’r Comisiwn
Bydd y Comisiwn yn cael ei gadeirio gan Paul Silk, Clerc y Cynulliad o 2001 hyd 2007, sydd hefyd wedi bod yn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda chefnogaeth un aelod o bob un o bleidiau gwleidyddol Cymru, a dau aelod annibynnol arall.
Mae nhw’n cynnwys Dyfrig John CBE (Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality); Yr Athro Noel Lloyd CBE (cyn Ddirprwy-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth); Yr Athro Nick Bourne (Aelod, a chyn-Arweinydd, y Ceidwadwyr Cymreig); Sue Essex (Aelod o Lafur Cymru); Rob Humphreys (Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig) a Dr Eurfyl ap Gwilym (Aelod o Blaid Cymru).
‘Gwireddu addewid’
Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, dyweddod Cheryl Gillan ei bod yn croesawu’r “cyfoeth profiad ac arbenigedd mewn materion ariannol a chyfansoddiadol” sydd gan y saith.
Dywedodd Cheryl Gillan fod disgwyl i’r Comisiwn “ymgynghori’n eang ar ei awgrymiadau” yn y gobaith o sicrhau cefnogaeth i argymhellion y Comisiwn.
Ychwanegodd Cheryl Gillan ei bod hi “ond yn iawn ein bod ni’n edrych ar ffyrdd o wneud y Cynulliad yn fwy atebol ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn mynd â ni yn y cyfeiriad iawn.”
Wrth drafod cylch gorchwyl y Comisiwn, dywedodd y Cadeirydd, Paul Silk, fod ganddyn nhw “waith heriol a chymleth” ond ei fod yn “edrych ymlaen i gydweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.”
Croeso cynnes o bob cornel
Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu’n gynnes gan bobol ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn San Steffan, Danny Alexander. Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd fod “creu’r Comiwisn hwn yn cyflawni un addewid pwysig a wnaed i bobol Cymru yn ein Cytundeb Clymblaid.”
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’r Comisiwn yn gallu “ffurfio consensws eang ynglŷn â’r camau nesaf wrth ddatganoli pŵer i Gymru, ac yn enwedig i roi mwy o lais i drethdalwyr yn y modd mae eu treth yn cael ei wario.”
Mae ei gyd-aelod yn y Democratiaid Rhyddfrydol, arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, hefyd wedi canmol y comisiwn.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnogi mwy o rym cyllidol i Gymru yn gyson, ac mae’n deyrnged i’r Llywodraeth Glymblaid bod y cyhoeddiad wedi ei wneud ar ôl degawd o ddiffyg gweithredu gan Lafur,” meddai.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad, ond rhybuddiodd arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, y byddai’n rhaid i’r Comisiwn greu “llwyfan cyllidol cynnaliadwy i’n cenedl a chynyddu atebolrwydd ariannol ei llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd.”
Ychwanegodd y byddai angen i’r comisiwn fod yn “fentrus ac uchelgeisiol wrth edrych ar ba feysydd o lywodraeth ddylai fod yn bynciau i bobl Cymru.”
Dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru Andrew RT Davies ei fod yn croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd Cymru ac y byddai’n dechrau ar y broses o wneud y Cynulliad yn fwy atebol i bobol Cymru.