Mae ymladdwyr tân, milwyr a gweithwyr gwarchod y cyhoedd yn ceisio diffodd fflamau tân mawr yng ngogledd yr Almaen.

Y tân yn Luebtheen, tua 170km (106 milltir) i’r gogledd-orllewin o ddinas Berlin, yw’r mwyaf yn hanes talaith Mecklenburg Gorllewin Pomerania.

Y gred ydi fod tua 600 hectar (1,483 acer) o goedwigoedd wedi cael eu heffeithio.

Dros nos, fe lwyddodd ymladdwyr i gyfyngu ar y tân, a’r bwriad nawr yw “ymosod” arno.

Mae dŵr yn cael ei sugno o afon Elbe, ac mae’r fyddin yn defnyddio hofrenyddion i geisio diffodd y fflamau sydd wedi cynnau yn dilyn wythnosau o dywydd crasboeth.