Mae Aelodau Senedd Ewrop y Brexit Party wedi troi eu cefnau wrth i anthem Senedd Ewrop gael ei chwarae ar ddiwrnod agoriadol y senedd newydd yn Strasbwrg.

Yn eu plith yn rhan y brotest oedd arweinydd y Blaid, Nigel Farage, a’r aelodau newydd gan gynnwys Ann Widdecombe a Annunziata Rees-Mogg.

Fe wnaeth Aelodau Senedd Ewrop UKIP o dan arweinyddiaeth Nigel Farage yr un peth ar ddechrau’r sesiwn yn 2014 gan wrthod canu ‘Ode To Joy’.

Ar y llaw arall roedd Aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu seddi yn gwisgo crysau T melyn gyda “Bollocks to Brexit” arnynt.

Y Brexit Party a’r Democratiaid Rhyddfrydol – dwy blaid a safbwyntiau hollol gyferbynol – wnaeth ddod yn gyntaf ac yn ail yn etholiad Senedd Ewrop gwledydd Prydain.

Mae heddiw (Dydd Mawrth, Gorffennaf 2) yn nodi agor y sesiwn bum mlynedd newydd yn y Senedd, er bod ansicrwydd o hyd am gyfranogiad gwledydd Prydain yng nghanol Brexit.

Fe fydd yr Aelodau yn aros yn y senedd tan mae gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.