Mae RSPCA Cymru wedi lansio apêl ar ôl i ddyn cael ei weld yn saethu hwyaid mewn llyn yn Rhyl.

Cafodd y dyn, rhwng tua 25 a 35 oed, ei weld gan seiclwr yn tynnu’r hwyaid allan o’r llyn gyda rhwyd cyn eu rhoi nhw mewn bag glas.

Roedd ganddo wn reiffl brown, a defnyddiodd hwnnw i saethu tair hwyaden ar Fehefin 26.

“Mae’n drallodus iawn meddwl bod pobl yn cael pleser wrth achosi niwed i adar heb amddiffyniad,” meddai archwilydd yr RSPCA, Jenny Anderton.

“Mae’n ymddangos fod hyn yn weithred greulondeb fwriadol ac rwy’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch pwy a saethodd yr hwyaid hyn i gysylltu.”

“Hoffem hefyd atgoffa aelodau’r cyhoedd bod holl adar gwyllt yn cael eu diogelu dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac mae’n drosedd lladd, anafu neu eu cymryd yn ystod y tymor cau heb drwydded.”