Mae 31 o bobol wedi cael eu lladd a saith wedi’u hanafu mewn damwain bws yn Kashmir, India.
Fe blymiodd y bws oddi ar fynydd yn yr Himalayas cyn rholio 150 metr lawr ceunant, meddai’r gweinidog sifil Angrez Singh Rana.
Mae’r awdurdodau yn ceisio darganfod os yw’n fethiant peiriannol neu’n esgeulustod ar ran y gyrrwr.
Yn ôl yr heddwas MK Sinha roedd y bws wedi taro cerrig ar waelod y ceunant ac wedi malu’n ddarnau. Dywed hefyd bod y bws 27 sedd wedi’i gorlenwi.
Ddydd Iau (Mehefin 27), roedd bws mini a oedd yn cludo myfyrwyr i bicnic wedi plymio i geunant ar hyd ffordd arall yn Kashmir, gan ladd o leiaf 11 ac anafu saith arall.
Mae gan India rai o’r ffyrdd peryclaf yn y byd, gyda thua 150,000 o bobol yn cael eu lladd a 470,000 yn cael eu hanafu’n flynyddol.