Mae Jeremy Hunt yn addo cadw pot gwerth £6bn i ddelio â Brexit heb gytundeb wrth i derfyn ras arweinyddiaeth y Torïaid, a Prif Weinidog gwledydd Prydain, barhau.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor fe ddylai cynhyrchwyr bwyd cael eu trin fel gwasanaethau yn y diwydiant ariannol yn ystod damwain ariannol 2008.

Fe fydd Jeremy Hunt yn llunio cynllun deg pwynt, gan gynnwys pwyllgor tebyg i Cobra – sy’n delio a materion argyfwng yng ngwledydd Prydain – i gyflymu’r paratoadau a sicrhau bod gwledydd Prydain yn dal i wneud busnes os oes tariffiau Sefydliad Masnach y Byd yn mynd ar waith.

Yn rhan o Raglen Ryddhad Dim Cytundeb mae arian wrth gefn i ffermwyr a physgotwyr sy’n allforio i Ewrop i sicrhau bod y rhain yn rhedeg yn llyfn wrth i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd os daw hi i hynny.

Mae disgwyl i Jeremy Hunt ddweud wrth Aelodau Seneddol ei fwriad i greu paratoadau i Brexit heb gytundeb ar unwaith gan adnabod y camau sydd angen eu cymryd gan y Llywodraeth.

Dywedodd ynghynt y byddai’n well ganddo i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda “cytundeb newydd” sy’n cael gwared ar gytundeb wrth gefn Gogledd Iwerddon.