Mae deg o bobol wedi cael eu lladd wrth i awyren fach daro mewn i awyrendy wrth iddi geisio gadael maes awyr yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau.
Doedd dim un person ar yr awyren wedi goroesi’r digwyddiad ym Maes Awyr Addison Municipal, sydd tua 20 milltir i’r gogledd o Dallas, fore ddoe (dydd Sul, Mehefin 30).
Roedd y Beechcraft BE-350 King Air wedi cael trafferth i godi wrth geisio gadael cyn iddi blymi mewn i awyrendy a mynd yn fflamau.
Bu farw dau aelod o griw’r awyren ac wyth teithiwr ar yr awyren oedd fod i hedfan i St Petersburg yn nhalaith Florida.
Does dim gwybodaeth am bâm wnaeth yr awyren fethu ar hyn o bryd.