Fe fydd y Tywysog Charles yn dechrau taith o gwmpas Cymru heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 1) i nodi 50 mlynedd union ers yr arwisgo.

Mae disgwyl i’r Tywysog a Duges Cernyw dreulio’r wythnos yn teithio o amgylch y wlad i nodi cael ei arwisgo’n Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.

Ond fydd e ddim yn ymweld â’r dref yr wythnos hon, lle cafodd ei arwisgo mewn seremoni fawreddog ar Orffennaf 1 hanner can mlynedd yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House: “Mae’r Tywysog a’r Dduges bob amser yn edrych ymlaen at eu hymweliad blynyddol i gwrdd â phobl ar draws Cymru.

“Fe fyddan nhw’n cael y cyfle i ymweld ag ystod eang o gymunedau, sefydliadau ac elusennau sy’n gweithio mor galed i wneud newidiadau positif.”

Ymweliadau

Heddiw, fe fydd y tywysog, yng nghanolfan alw Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Nantgarw ger Pen-y-bont ar Ogwr i gyfarfod â rhai o’r bobol ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Mae 72,000 o bobl ifanc yn cysylltu â’r elusen ar y ffon bob blwyddyn.

Fe fydd y tywysog hefyd yn ymweld â Choedwig Ty’n-y-Coed, lle bydd yn gweld sut mae ceffylau’n cyfrannu at waith pren yng nghoedwigoedd Llantrisant.

Bydd Tywysog a Duges Cernyw hefyd yn ymweld â phencadlys Heddlu’r De ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Llantrisant.

Wrth deithio i’r gorllewin, byddan nhw’n mynd i’w cartref yn Llwynywermod ger Llanymddyfri, lle bydd noson o adloniant yng nghwmni’r tenor Wynne Evans. Bydd enw’r delynores frenhinol newydd hefyd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y noson.

Bydd y tywysog yn Abertawe ddydd Mercher (Gorffennaf 3), i nodi hanner canmlwyddiant ers iddi ddod yn ddinas. Yno, bydd yn ymweld â chapel y Tabernacl yn Nhreforys.

O’r fan honno, byddan nhw’n teithio i Lanofer yn Nhredegar Newydd a chanolfan ganser Maggie’s yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Ddiwedd yr wythnos, byddan nhw’n mynd i’r Ysgwrn, cartre’r bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, yn ogystal ag eglwys Mallwyd ym Machynlleth ar gyfer gwasanaeth Plygain.