Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dyn 47 oed o Lanelli fel achos o lofruddiaeth erbyn hyn.

Roedden nhw’n ymchwilio’n wreiddiol i ddynladdiad Andre Yan Irwin fore ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 29).

Cafwyd hyd iddo wedi’i anafu yn oriau man y bore, ac fe fu farw’n fuan wedyn.

Mae ei deulu’n cael eu cefnogi gan yr heddlu, gan ddweud eu bod yn “torri’u calonnau”.

Mae dyn 42 oed a gafodd ei arestio yn y fan a’r lle yn cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.