Mae Angela Merkel wedi bod yn crynu ac yn siglo am yr ail dro ar lwyfan cyhoeddus o fewn ychydig tros wythnos.
Roedd Canghellor yr Almaen mewn seremoni yn Berlin i benodi Gweinidog Cyfiawnder newydd y wlad yn ffurfiol.
Fe groesodd Angela Merkel ei breichiau tros ei bron wrth i’w chorff ysgwyd, ond roedd hi i weld yn iawn pan gyrhaeddodd y Senedd hanner awr yn ddiweddarach.
Yn ôl ei llefarydd mae’r Canghellor yn “iawn” ac fe fydd hi’n hedfan i Japan ar gyfer uwchgynhadledd o wledydd mwyaf pwerus y byd.
Wythnos i ddydd Mawrth roedd y Canghellor yn ysgwyd wrth iddi sefyll mewn tywydd poeth gydag Arlywydd yr Iwcraen.
Mae Angela Merkel yn 64 oed ac yn Ganghellor yr Almaen ers 2005.
Bydd ei thymor presennol wrth y llyw yn dod i ben yn 2021 ac mae hi eisoes wedi dweud y bydd yn rhoi’r gorau iddi bryd hynny.