Fe all newyn ladd dros ddwy filiwn o bobol Somalia erbyn diwedd yr haf os nad oes cymorth rhyngwladol yn cael i ddanfon yno, mae’r Cenhedloedd Unedig yn adrodd.
Dywed is-ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Mark Lowcock, bod angen tua £550m o arian cymorth yn dilyn sychder y tymor diwethaf sydd wedi lladd stoc a chnydau.
Mae’r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi anfon £35m ar gyfer bwyd, dwr a gofynion dyddiol yn Somalia, ynghyd a rhannau o Genia ac Ethiopia.
Yn y wlad o tua £15m o bobol, mae mwy na tair miliwn o bobol Somalia ar frig newynu. Roedd y prinder bwyd 40% yn waeth nag yn ystod y gaeaf.
“Fe allen ni gael ymateb cyflym nawr a fyddai’n rhatach, yn lleihau dioddefaint pobl ac yn fwy effeithiol,” meddai Mark Lowcock.
“Neu gallwn aros am ychydig fisoedd nes i ni gael yr holl luniau erchyll ar ein sgriniau teledu a’n cyfryngau cymdeithasol o blant yn newynu.”