Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn dweud bod angen cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr Eidal am beidio â pharchu rheolau arian yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl adroddiad newydd mae colledion Yr Eidal yn sefyll ar 132.2% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y llynedd, sydd dros ddwbwl cyfyngiad 60% yr Undeb Ewropeaidd.

O ganlyniad mae’r wlad wedi methu â dilyn rheolau colledion yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n debygol y bydden nhw’n gwneud yr un peth yn 2019 a 2020.

Yn yr wythnosau i ddod fe fydd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn asesu difrifoldeb y camau i’w cymryd yn erbyn yr Eidal, sy’n debygol o wynebu biliynau o ddirwyon.

Daw’r galw gan Gomisiwn Ewrop wrth i densiynau rhwng Brwsel a Llywodraeth yr Eidal gynyddu.

Mae hyn yn enwedig oherwydd dirprwy Prif Weinidog y wlad, Matteo Salvini, sydd wedi ennill ei blwyf yn dilyn canlyniadau cefnogol iddo a’i blaid asgell dde yn etholiadau’r Undeb Ewropeaidd fis diwethaf.