Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi cyfres o gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd yn dilyn y penderfyniad i ddileu’r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru yng Nghasnewydd.
Daeth cadarnhad ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 4) o’r penderfyniad gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.
Dywedodd mai’r gost o £1.6bn a rhesymau amgylcheddol oedd yn gyfrifol am y penderfyniad, sydd wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr amgylcheddol.
Mae Comisiwn yn cael ei sefydlu er mwyn dod o hyd i atebion i dagfeydd traffig yn y de-ddwyrain yn sgil y penderfyniad.
‘Sefyllfa gymhleth’
Wrth gydnabod y “sefyllfa gymhleth”, dywed Ken Skates ei fod yn bwriadu defnyddio “dull strategol” o fynd i’r afael â thagfeydd yn yr ardal.
Mae’n cydnabod fod dileu tollau pontydd Hafren yn debygol o arwain at dagfeydd a lleihau ansawdd yr awyr.
“Mae’n amlwg i mi fod angen i ni gydweithio i ystyried sut rydym am ddarparu ar gyfer symud nwyddau a phobol ar draws y rhanbarth mewn modd sy’n creu Cymru decach a mwy llewyrchus, sy’n cydnabod yr her ddigynsail o newid hinsawdd, ac sy’n fforddadwy o ystyried y pwysau enfawr ar ein cyllidebau sydd wedi’i achosi gan ddeng mlynedd o lymder a thoriadau i gyllidebau cyfalaf,” meddai mewn datganiad.
Mesurau posib
Ymhlith y mesurau mae Ken Skates yn eu hawgrymu y mae:
- mwy o swyddogion traffig i leihau digwyddiadau a chau lonydd;
- cerbydau ar alw i gefnogi swyddogion traffig i symud rhwystrau o’r neilltu;
- gwybodaeth fyw am amserau teithio i deithwyr;
- cyffyrdd i leddfu’r pwysau ar dwneli Brynglas;
- ymgyrch ymddygiad gyrwyr i wneud y defnydd gorau o’r ffyrdd.
Ond mae’n cyfaddef mai atebion tymor byr yw’r rhain, a bod angen datrysiad yn y tymor hir hefyd.
Gwaith y Comisiwn fydd hyn, meddai, er mwyn dod o hyd i atebion tymor hir i dagfeydd yn y de-ddwyrain a chynnig atebion amgen i’r M4 yng Nghasnewydd.
Bydd y Comisiwn yn cydweithio â rhanddeiliaid y rhanbarth ac ymgyrchwyr amgylcheddol lleol.
Yr Arglwydd Terry Burns fydd yn cadeirio’r Comisiwn, meddai, wrth gadarnhau y bydd yn adrodd yn ôl o fewn chwe mis.
“Rydym yn troi at y Comisiwn ar gyfer cyfres o weithredoedd ymarferol y gellir eu cyflwyno ar unwaith ac yn y tymor hir,” meddai Ken Skates.
“Bydd angen, wrth gwrs, i ni ystyried pa mor fforddadwy yw’r datrysiadau sy’n cael eu cynnig yn sgil sefyllfa gyllidebol Llywodraeth Cymru ar y cyfan.”