Mae Algeria wedi canslo etholiad arlywyddol ar ôl gwrthod rhoi’r hawl i’r unig ddau ymgeisydd yn y ras sefyll.
Roedd disgwyl i’r etholiad gael ei gynnal ar Orffennaf 4.
Cyfrifoldeb yr Arlywydd Abdelkader Bensalah yw pennu dyddiad newydd.
Does dim rheswm wedi’i gynnig am wrthod ymgeisyddiaeth y ddau.
Camodd Abdelaziz Bouteflika o’r neilltu ar Ebrill 2 ar ôl dau ddegawd.
Fe fu protestiadau wythnosol yn y wlad ers Chwefror 22.