Mae o leiaf bump o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i long a chwch daro yn erbyn ei gilydd yn Fenis yn yr Eidal.
Fe ddigwyddodd am oddeutu 8.30 fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 2) ar gamlas Giudecca.
Mae fideo wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos dwsinau o bobol yn rhedeg i ffwrdd o’r ardal mewn ofn.
Mae’r ddinas yn boblogaidd ymhlith twristiaid a llongau, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.