Mae Prem Tinsulanonda, cyn-brif weinidog Gwlad Thai ac un o wleidyddion pwysicaf ei wlad dros gyfnod o bedwar degawd, wedi marw’n 98 oed.
Roedd e hefyd yn ffigwr blaenllaw yn y lluoedd arfog ac yn ymgynghorydd i balas brenhinol y wlad.
Daeth cadarnhad iddo farw yn yr ysbyty yn Bangkok.
Roedd yn ufudd i’r diweddar frenin Bhumibol Adulyadej, oedd wedi ei benodi i’w Gyngor Cyfrin ar ôl iddo gamu o swydd y prif weinidog. Aeth yn ei flaen i arwain y cyngor hwnnw yn 1998.
Roedd yn brif weinidog rhwng 1980 a 1988.
Tra bod y rhan fwyaf o arweinwyr y wlad yn cael y swydd trwy gipio grym milwrol, cafodd Prem Tinsulanonda ei ethol gan y senedd, er na fu erioed yn ymgeisydd swyddogol.
Fe oroesodd sawl ymdrech i gipio grym oddi arno fe, a sawl cynllwyn i’w ladd.
Cafodd ei gyhuddo yn 2006 o fod â rhan yn yr ymdrechion i chwalu arweinyddiaeth Thaksin Shinawatra, cyn-brif weinidog y wlad.