Mae mwyafrif yn y Goruchaf Lys ym Mrasil wedi pleidleisio o blaid gwneud homoffobia a thrawsffobia yn droseddau yn yr un modd a hiliaeth.
Daw hyn yn sgil pryderon y bydd arlywydd newydd asgell-dde’r wlad, Jair Bolsonaro, yn troi ei gefn ar ddatblygiadau cymdeithasol mewn agweddau tuag at bobl hoyw.
Fe bleidleisiodd chwech o 11 o farnwyr y Goruchaf Lys o blaid y mesur a bydd yn cael ei roi ar waith ar ôl i’r pump arall fwrw pleidlais.
Cafodd hiliaeth ei wneud yn drosedd ym Mrasil yn 1989 ac fe all arwain at hyd at bum mlynedd yn y carchar am droseddau yn ymwneud a hiliaeth.
Yn ôl y barnwyr fe ddylai homoffobia fod o fewn yr un fframwaith a chyfraith hiliaeth nes bod cyngres y wlad yn cymeradwyo mesurau yn benodol ar droseddau homoffobig.
Yn ôl y grŵp hawliau dynol Grupo Gay da Bahia, lladdwyd 420 o bobl hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ym Mrasil yn 2018, tra bod o leiaf 141 wedi cael eu lladd eleni.