Mae swyddogion gweinyddiaeth arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud wrth y Gyngres bod eu hymateb diweddar i’r sefyllfa yn Iran wedi atal ymosodiadau ar luoedd y wlad.
Mae tensiynau rhwng y ddwy wlad wedi cynyddu ar ôl i Donald Trump feirniadu Iran am newid ei pholisïau niwclear, gyda phryder ynglŷn â gwrthdaro milwrol wedi dod yn bosibilrwydd.
Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (dydd Mawrth, Mai 21) dywed yr Ysgrifennydd Gwladol, Mike Pompeo, ac Ysgrifennydd Amddiffyn dros dro Patrick Shanaham mai’r gôl yw atal Iran ac osgoi’r sefyllfa i ddwysau.
“Nid ydym eisiau mynd i ryfel,” meddai Patrick Shanaham, “ein ffocws mwyaf ar y pwynt hwn yw atal camgyfrifiad gan Iran.”
Mae Democratiaid amheus wedi cynnal cyfarfod eu hunain gyda chyn swyddogion gweinyddu Barack Obama – cyn-gyfarwyddwr CIA, John Brennan, a Wendy Sherman, sef pensaer y cytundeb niwclear gydag Iran.
Yn ôl y Gweriniaethwyr a chefnogwyr Donald Trump mae’r bygythiadau o Iran yn rhai go iawn.
Fe gyhoeddodd Iran ei bod yn paratoi i gynhyrchu pedair gwaith yn fwy o wraniwm o ganlyniad i’r tensiynau rhyngddi hi a’r Unol Daleithiau.