Mae reiat wedi dechrau yn Jakarta, prifddinas Indonesia, o ochr cefnogwyr ymgeisydd arlywyddol wnaeth fethu ennill yn yr etholiad
Wrth i’r protestwyr losgi ceir a thaflu cerrig at yr heddlu mae bwledi rwber a nwyon dagrau yn mynd y ffordd arall.
Mae’r protestwyr wedi bod ceisio torri mewn i swyddfeydd yr asiantaeth etholiadol yn hwyr neithiwr (Dydd Mawrth, Mai 21) ac mae’r gwrthdaro yn parhau ers hynny.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, mae’r mwyafrif o’r protestwyr wedi dod o’r tu allan i Jakarta ac mae 60 o bobol wedi cael eu harestio.
Mae’r cyfryngau lleol yn adrodd nifer o farwolaethau a dwsinau wedi eu hanafu.
Cyhoeddodd Comisiwn Etholiadol Indonesia ddoe (dydd Mawrth, Mai 21) bod yr arlywydd Joko Widodo wedi ennill ei ail dymor yn arweinydd gyda 55.5% o’r bleidlais yn etholiad Ebrill 17.
Yn dilyn mae’r cenedlaetholwr asgell-dde, Prabowo Subianto – sy’n gyn pennaeth ar y lluoedd arbennig – yn gwrthod derbyn y canlyniad ac yn honni mai ef yw’r enillydd.
Mae’n bwriadu herio’r etholiad yn y Llys Cyfansoddiadol gan honni bod twyll enfawr wedi bod yn nhrydedd ddemocratiaeth fwyaf y byd – ond nid oes tystiolaeth o hyn.