Mae bomiwr wedi ymosod ar luoedd diogelwch mewn safle cysegredig yn Lahorr, gan ladd o leiaf wyth o bobol ac anafu 23.

Dywed prif weithredwr heddlu Lahore bod pump o heddweision a thri o bobol wedi’u lladd yn yr ymosodiad.

Nid yw’n glir os mai’r lleoliad neu’r swyddogion diogelwch oedd y targed, meddai.

Roedd cannoedd o bererinion y tu mewn a’r tu allan i’r gysegrfa pan ffrwydrodd y bom.