Mae Llywydd y Cynulliad a Phrif Weinidog Cymru wedi galw am gynyddu nifer aelodau’r sefydliad.

Wrth annerch y Cynulliad i ddathlu ei ben-blwydd yn 20 oed, fe bwysleisiodd y Llywydd Elin Jones bod nifer yr Aelodau Cynulliad wedi aros ar 60 er bod gwaith y Cynulliad wedi cynyddu’n sylweddol.

“Os ydym am wireddu unrhyw uchelgais i gynyddu pwerau’r Senedd hon, neu i chwistrellu mwy o greadigrwydd a gwreiddioldeb i mewn i ddefnydd o’r pwerau sydd eisoes gennym, mae angen cynyddu ein capasiti,” meddai.

“Does dim mwy o oriau yn y dydd, does dim posib bod mewn dau le, neu mewn dau Bwyllgor, ar yr un pryd – ac felly i gynrychioli pobol Cymru ar ein gorau, yna mae angen mwy o Aelodau.”

‘Siom’

Roedd y methiant i gynyddu nifer yr ACau yn siom hefyd i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford – roedd adroddiad wedi galw am gynnydd ym mlwyddyn gynta’r sefydliad, meddai.

Yn y gorffennol, mae pleidiau wedi bod yn ofnus i alw’n gadarn am gynnydd gan ofni y bydd etholwyr yn eu cosbi am geisio cynyddu nifer gwleidyddion.F

Fe gyhoeddodd Elin Jones y bydd Cynulliad y Bobol a Ffair Ddemocratiaeth yn cael eu cynnal yr haf yma, er mwyn rhoi cyfle i bobol gyfrannu syniadau am ddyfodol y Cynulliad a’r wlad.