Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, ac Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo, yn cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Mai 8) i drafod Huawei ac Iran.
Mae disgwyl i Mike Pompeo rybuddio Theresa May rhag ei chynlluniau i gynnwys y cawr technolegol Huawei yn rhwydwaith 5G gwledydd Prydain.
Ef yw aelod cyntaf o garfan arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i siarad wyneb yn wyneb â Theresa May a’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, ers i’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol gytuno i ystyried rhan Huawei yn y cynlluniau.
Mae’r Unol Daleithiau yn galw ar wledydd eraill i gadw Huawei allan o’r cynlluniau rhwydweithiau – gan leisio pryder ynglyn â gallu Tsieina i ddefnyddio’i safle i ysbïo ar y Gorllewin.
O ran Iran, mae disgwyl i Mike Pompeo roi pwysau ar Brydain i ynysu’r wlad.
Mae Mike Pompeo wedi bod yn Irac cyn cyrraedd Llundain, gan addo i Baghdad bod yr Unol Daleithiau yn gwrthwynebu gwledydd eraill “yn ymyrryd yn eu gwlad” a’i fod eisiau sicrhau fod Irac yn “genedl sofran, annibynnol”.