Mae cynllwynwyr a bomwyr yr ymosodiadau ar eglwysi a gwestai yn Sri Lanca ar Ebrill 21 unai wedi marw neu wedi’u harestio, yn ôl yr heddlu.
Ar ben hynny, mae bomiau eraill oedd yn nwylo’r grŵp ISIS oedd wedi’u paratoi am fwy o ymosodiadau wedi cael eu canfod.
Lladdwyd 257 o bobol, a chafodd cannoedd eu hanafu mewn tair eglwys a thri gwesty yn yr ymosodiadau.
Bu farw saith o’r bomwyr wrth gynnal eu hymosodiadau tra bu farw un arall wrth ffrwydro ei fom mewn tŷ ar ôl iddo fethu â gwneud hynny mewn gwesty.
Fe laddodd y nawfed ei hun i osgoi cael ei dal gan yr heddlu.
Mae’r heddlu wedi dal 73 o bobol mewn cysylltiad a’r ymosodiadau, ynghyd a stociau o ffrwydron, dyfeisiadau ffrwydrol eraill a cannoedd o cleddyfau.
Cafwyd hyd i gannoedd ar filoedd o ddoleri mewn arian parod mewn cyfrifon banc wedi’u cysylltu ar grŵp, ar ben gwerth 40 miliwn doler o asedau mewn tir, tai, cerbydau a gemwaith.
Yn ôl yr awdurdodau mae ymosodiadau eraill gan yr eithafwyr yn bosib.