Mae angen cynyddu’r oed pan mae hawl arestio unigolyn ar amheuaeth o gyflawni trosedd “yn sylweddol”, yn ôl corff rheoleiddio ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn ôl y drefn ar hyn o bryd, mae hawl arestio a chyhuddo unigolyn pan maen nhw’n 10 oed.

Mae hyn yn llai na’r oed mewn llawer o wledydd eraill yn Ewrop, ac yn “anghydfynd â safonau rhyngwladol”, meddai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Maen nhw’n dweud bod arestio plant 10 neu 11 oed yn cael effaith negyddol ar eu lles a’u datblygiad, ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o aildroseddu pan maen nhw’n oedolion.

“Mae cynyddu’r oed am gyfrifoldeb troseddol yn hanfodol er mwyn atal plant ifanc rhag dod wyneb yn wyneb ag effeithiau niweidiol carcharu, ac er mwyn diogelu eu dyfodol,” meddai David Isaac, cadeirydd y comisiwn.

Y drefn bresennol ‘yn addas’

Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Prydain fod yr oed presennol yn sicrhau ymyrraeth gynnar ym mywyd plentyn, gyda’r nod o’u hatal rhag aildroseddu.

“Mae plant iau sy’n troseddu gan amlaf yn cael eu dargyfeirio o’r system gyfiawnder neu’n cael eu trin y tu allan i’r llys,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

“Yn ystod y degawd diwethaf mae yna ostyngiad o 86% yn nifer yr unigolion o dan 18 oed o fewn y system gyfiawnder i’r ifanc.”