Mae grŵp o arbenigwyr yn Ffrainc ac yn rhyngwladol yn galw ar Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, i sicrhau nad yw’r broses o adnewyddu eglwys y Notre Dame yn cael ei frysio.
Byddai hyn yn sicrhau bod gwaith ailadeiladu da yn cael i wneud yn dilyn y tan yno bythefnos yn ol.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Ffrainc fesur wythnos diwethaf gyda’r bwriad o gyflymu’r broses o adeiladu byddai’n caniatáu i weithwyr osgoi gweithdrefnau adnewyddu cyffredin.
Pum mlynedd yw targed Emmanuel Macron i gael y gwaith wedi ei gwblhau – rhywbeth mae arbenigwyr yn ystyried yn amhosib.
Mewn erthygl ym mhapur newydd Ffrainc, Le Figaro, mae grŵp o 1,100 o arbenigwyr yn galw ar yr arlywydd i “adael i haneswyr ac arbenigwyr wneud diagnosis cyn penderfynu ar ddyfodol yr adeilad”.
Maen nhw’n galw am ymagwedd ystyriol a moesegol gan ei rybuddio yn erbyn “agenda wleidyddol” wedi ei seilio ar frysio’r gwaith.