Mae dynes wedi marw ac mae tri o bobol eraill mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael eu saethu mewn synagog yn San Diego yn nhalaith Califfornia.

Aeth dyn 19 oed i mewn i’r synagog ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 27) a dechrau saethu at addolwyr.

Saethodd swyddog diogelwch ato wrth iddo geisio ffoi, ond ni chafodd ei daro.

Ffoniodd yr un sy’n cael ei amau yr heddlu i adrodd am y digwyddiad, ac fe gafodd ei arestio.

Bu farw’r ddynes yn ddiweddarach, tra bod merch a dau ddyn yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.