Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i luniau o gorff y pêl-droediwr Emiliano Sala ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r lluniau’n dangos yr Archentwr yn gorwedd mewn marwdy yn Bournemouth ar ôl iddo farw mewn damwain awyr.

Cafodd y lluniau eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ychydig wythnosau’n ôl.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw wedi’u “ffieiddio”.

Cefndir

Roedd Emiliano Sala newydd symud i Gaerdydd pan aeth ei awyren ar goll dros ynys Guernsey ar Ionawr 21.

Cafwyd hyd i’w gorff ar Chwefror 6, ond mae’r peilot David Ibbotson yn dal ar goll.

Bu farw Horacio Sala, tad y chwaraewr, ddydd Gwener (Ebrill 26).