Mae gwyddonwyr yn poeni am yr ardal o Begwn y De lle mae pengwiniaid ymerodrol yn byw, gan nad oes un cyw wedi ei eni yno dros y tair blynedd diwethaf.
Fel arfer mae 15,000 i 24, 000 pâr o bengwiniaid ymerodrol yn heidio i safle bridio Bae Halley bob blwyddyn, ac mae’n cael ei ystyried fel lle diogel a ddylai aros yn oer er gwaethaf cynhesu byd-eang.
Ond ers 2016, does dim un pâr wedi bod yno, yn ôl astudiaeth Antartic Science.
“Dydyn ni erioed wedi gweld methiant bridio ar raddfa fel hyn mewn 60 mlynedd,” meddai llefarydd ar ran Arolwg Antarctig Prydain.
“Mae’n anarferol cael methiant bridio llwyr mewn nythfa mor fawr.”
Bai’r dirywiad sydyn ar yr hinsawdd a’r tywydd sy’n torri “rhew cyflym” – rhew môr sydd wedi’i gysylltu â’r tir – yw hyn yn ôl y gwyddonwyr.
Dyna le mae pengwiniaid yr ymerawdwr yn aros i fridio fel arfer.