Mae byddinoedd y byd wedi lladd mwy o bobol gyffredin yn Affganistan hyd yma eleni, nag o wrthryfelwyr fel y Taliban.

Roedd milwyr rhyngwladol yn gyfrifol am 305 o farwolaethau sifil, bron i hanner ohonyn nhw yn ystod cyrchoedd awyr.

Y gwrthryfelwyr sydd yn dal yn gyfrifol am y mwyafrif o sifiliaid sydd wedi eu lladd a’i hanafu, yn ôl adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn Affganistan.

Yn ol yr adroddiad mae 1,773 o bobol gyffredin wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn nhri is cyntaf eleni – sy’n ostyngiad mawr o’r un cyfnod y llynedd, pan oedd y ffigwr yn 2,305.

Bryd hynny, bomiau gwrthryfelwyr oedd yn cael y bai am y niferoedd uchel o ddioddefwyr.

Rhwng Ionawr 1 a Mawrth 32 eleni, cafodd 581 o bobol ddiniwed eu lladd a 1,192 eu hanafu, yn ôl yr adroddiad.

Er bod gwrthryfelwyr wedi achosi mwyafrif sylweddol o’r anafiadau, roedd yn lluoedd Llywodraethau’r byd, gan gynnwys lluoedd NATO, yn gyfrifol am ladd y mwyafrif o sifiliaid.

Ar yr un pryd, roedd ymosodiadau gwrthryfelwyr wedi anafu 736 o bobol gyffredin, o’u cymharu â lluoedd rhyngwladol a anafodd 303, meddai’r adroddiad.