Mae dwsinau o eiriolwyr tai cyhoeddus yn protestio tu allan i’r Notre Dame ym Mharis i alw fod pobol tlotaf Ffrainc yn cael eu cofio.
Daw’r brotest ar ôl i roddwyr addo bron i £1 biliwn i ail-adeiladu’r gadeirlan a’r to a gafodd ei ddifrodi.
Gwnaeth tua 50 o bobl o gymdeithas di-gartrefedd Ffrengig ymgynnull heddiw yn dal placardiau ac arnynt: “1 biliwn mewn 24 awr.”
Fe wnaethon nhw siantio sloganau wedi ei hanelu at Bernard Arnault, prif weithredwr cwmni LVMH, a addawodd gyfraniad o 200 miliwn Ewro (£173 miliwn) yr wythnos ddiwethaf.
Roedd rhai yn siantio: “Mae Notre Dame angen to, ’da ni eisau to hefyd.”
Roedd heddlu’r ddinas yn cadw llygad ar y brotest heddychlon ond ni wnaethon nhw ymyrryd.
Yn ychwanegol i’r arian addawyd gan Arnault, mae biliwnydd arall, Francois Pinault, a’i fab wedi addo 100 miliwn Ewro (£86.6 miliwn) i ail-adeiladu’r adeilad o’r coffrau eu hunain. Y nhw hefyd sy berchen ar dy ocsiwn Christie’s ac yn brif gyfranddalwr i Gucci.