Llongau De Korea
Mae De Korea wedi gwrthod dychwelyd dau ddyn o Ogledd Korea wedi iddyn nhw gael eu darganfod mewn cwch pren oddi ar arfordir y wlad.

Cafodd y ddau ddyn o Ogledd Korea eu darganfod gan lynges môr De Korea yn gynharach yr wythnos hon. Roedd y ddau ddyn ychydig i’r de o ffin y moroedd dwyreiniol.

Mae Pyongyang wedi galw ar Dde Korea i ddychwelyd y ddau ddyn.

Mae mwy na 21,000 o bobol o Ogledd Korea wedi dianc i Dde Korea ers diwedd rhyfel rhwng y ddwy wlad ym 1950-53, yn bennaf o ganlyniad i galedi economaidd yn y Gogledd.

Mae’r mudo wedi achosi tyndra mawr rhwng y ddwy wlad dros y blynyddoedd, wrth i Dde Korea dderbyn y rheiny sydd eisiau dod i’r wlad – yn groes i ddymuniadau’r Gogledd.

Mae’r Gogledd wedi honni bod eu dinasyddion yn cael eu dal yn y De yn groes i’w hewyllys, a bod De Korea yn rhoi pwysau arnyn nhw i adael y Gogledd yn y lle cyntaf.

Ond heddiw, fe anfonwyd neges gan Groes Goch De Korea yn dweud bod dau berson o Ogledd Korea yn dymuno aros yn y wlad, ac y byddai Seoul yn cyd-fynd â’r dymuniadau hynny, yn ôl Gweinidogaeth Uniad Seoul.

Ddydd Mawrth, fe gyrhaeddodd naw person arall o Ogledd Korea yn Ne Korea tua thair wythnos wedi iddyn nhw gael eu darganfod ar gwch pren oddi ar arfordir Japan. Penderfynodd Tokyo gyd-fynd â’u dymuniadau, a’u hanfon ymlaen i Dde Korea.

Daw’r anghydfod diweddaraf ar adeg pan mae’r tyndra rhwng y ddwy Korea wedi dechrau gostegu. Mae diplomyddion o’r ddwy wlad wedi bod yn cynnal trafodaethau yn ddiweddar, er mwyn ceisio ail-ddechrau trafodaethau rhyngwladol ar raglen niwclear Gogledd Korea.

Dirywiodd berthynas y ddwy Korea yn aruthrol y llynedd ar ôl i ddau ymosodiad, wedi eu cysylltu â Pyongyang, ladd 50 o bobol o Dde Korea.