Mae daeargryn yn mesu 6.1 ar y raddfa, wedi ysgwyd arfordir dwyreiniol Taiwan.
Mae lluniau teledu o’r ardal yn dangos o leiaf un tirlithriad sylweddol, ond does yna ddim adroddiadau o ddifrod nac anafiadau hyd yma.
Fe ddigwyddodd y daeargryn am 1.01yp (amser lleol) dydd Iau (Ebrill 18) gyda chanolbwynt y cryndodau tua chwe milltir i’r gorllewin o ddinas Hualien.
Fe gafodd adeiladau yn y brifddinas, Taipei, eu hysgwyd hefyd, ac mae hynny tua 70 milltir i ffwrdd o Hualien.