Mae heddlu yn Brasil wedi saethu deg o bobol yn ystod brwydr gyda lladron honedig ar gyrion un o ddinasoedd mwya’r wlad.

Mae heddlu talaith Sao Paulo yn dweud iddyn nhw ddechrau tanio at ladron oedd yn ceisio dwyn o ddau fanc yn Guararema, dinas o 28,000 o drigolion ar gyrion Sao Paulo.

Yn ôl yr heddlu, roedd 25 o ‘ladron’ ar fin gosod ffrwydron ym mheiriannau twll yn y wal y banciau.

Yn ystod y frwydr, fe gafodd arfau, pistolau a ffrwydron, ynghyd â siacedi diogelwch eu canfod. Mae nifer o’r dynion ar herw.

Does dim cadarnhad eto p’un ai oedd yna rai o’r lladron ymysg y rheiny dydd wedi’i lladd, ond mae’r heddlu yn dweud na chafodd yr un o’u swyddogion nhw eu saethu.