Mae Plaid Cymru yn “hollol wahanol” dan arweiniad Adam Price, yn ôl Aelod Cynulliad sydd wedi cael ei wahardd o’r Blaid.

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd yn 2018 am “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”, ond fis diwethaf daeth cyfle iddo anfon cais i ailymuno.

Anfonodd gais ar Fawrth 31, a bellach mae’n aros am ymateb.

Mae Neil McEvoy eisoes wedi dweud ei fod eisiau sefyll dros y Blaid yn sedd Gorllewin Caerdydd – sedd y Prif Weinidog Mark Drakeford – yn etholiad Cynulliad 2021.

Ac wrth atseinio hynny mae wedi dweud ei fod yn “cefnogi arweinyddiaeth Adam Price cant y cant”.

“Dan Adam Price mae Plaid Cymru yn hollol wahanol,” meddai. “Mae gennym arweinydd sydd eisiau ennill. Rydyn ni wedi ennill yn [ward] Trelái [ar Gyngor Caerdydd].

“Rydyn ni wedi ennill yn yr is-etholiadau. A dw i’n teimlo bod gydan ni dîm sydd eisiau ffurfio llywodraeth. Mi wna’ i gyfrannu at hynny trwy drechu’r Prif Weinidog, a chael Adam Price wedi ei ethol yn Brif Weinidog.”

Adam wir wedi helpu yn Elai?

Ym mis Chwefror mi enillodd Andrea Gibson, ymgeisydd Plaid Cymru, ward Trelái yn sgil isetholiad.

Mae’r ward yn rhan o etholaeth Gorllewin Caerdydd, ac mae Neil McEvoy yn dweud bod Adam Price wedi cyfrannu at ei buddugoliaeth.

“Roedd cefnogaeth Adam yn hynod symbolaidd,” meddai. “Yn anffodus, fe oedd yr unig Aelod Cynulliad wnaeth ein cefnogi on the ground.

“Cefnogodd trwy annog pobol. Roedd yn ymdrech fawr, ac rydym yn ddiolchgar iddo.”

Cynhadledd

Cynhaliodd Neil McEvoy ddigwyddiad ymylol yng nghynhadledd hydref Plaid Cymru yn 2017 – yn ystod cyfnod arall o waharddiad.

Ac roedd peth dyfalu y byddai wedi gwneud yr un peth yng nghynhadledd wanwyn y blaid eleni. Ond daeth dim byd o’r sïon, ac mae’r Aelod Cynulliad yn egluro’r rheswm am hynny.

“Rhaid i ni ganolbwyntio’n llwyr ar ei ethol [Adam Price] yn Brif Weinidog,” meddai.

“Dyna pam doeddwn i ddim eisiau tynnu sylw oddi wrth y gynhadledd. Doedd dim digwyddiad ymylol.

“Roeddwn i heb anfon cais i ailymuno cyn y gynhadledd – er y gallwn fod wedi gwneud hynna. Roeddwn i heb achos mae’n rhaid i ni flaenoriaethu newid Cymru.”