Mae llywodraeth Awstria yn ystyried diddymu plaid asgell dde tros gysylltiadau honedig ag ymosodwr brawychol Christchurch.

Derbyniodd y blaid rodd ariannol yn enw ‘Tarrant’ – yr un cyfenw â Brenton Tarrant, y dyn oedd wedi saethu pobol yn farw mewn dau fosg yn Seland Newydd.

Dywed Martin Sellner, pennaeth y blaid, fod yr heddlu wedi archwilio’i fflat ddydd Llun, ac wedi meddiannu cyfrifiaduron.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i droseddau ariannol honedig gan Martin Sellner.

Yn ôl Sebastian Kurz, Canghellor Awstria, fydd y wlad ddim yn goddef “ideolegau peryglus”.