Amanda Knox Llun: PA
Dywedodd Amanda Knox ei bod hi “wrth ei bodd” i fod nôl adre yn yr Unol Daleithiau ar ôl treulio pedair blynedd mewn carchar yn yr Eidal am lofruddio’r fyfyrwraig o Brydain, Meredith Kercher.
Wrth annerch cynhadledd i’r wasg ar ôl iddi gael ei rhyddhau, bu Amanda Knox, 24, yn rhoi teyrnged i’r bobol sydd wedi ei chefnogi trwy gydol ei hachos apel.
Ond o ganlyniad i ryddhau Amanda Knox, mae teulu Meredith Kercher yn dal i geisio cael atebion i’r hyn ddigwyddodd i’w merch.
Mae Knox wedi cyrraedd nôl yn ei thre enedigol Seattle ar ôl iddi ei chael yn ddi-euog o lofruddio’r fyfyrwraig 21 oed o Brifysgol Leeds yn y tŷ reodden nhw’n ei rannu yn Perugia.
Wrth siarad â newyddiadurwyr funudau ar ôl iddi lanio ym maes awyr Seattle-Tacoma, dywedodd: “Be sy’n bwysig i mi yw diolch i bawb sydd wedi credu ynof i a sydd wedi amddiffyn fi, a chefnogi fy nheulu. Fy nheulu yw’r peth pwysica i mi ar hyn o bryd a dwi eisiau bod gyda nhw.”
Ychwanegodd bod y sefyllfa’n teimlo’n “afreal”. Roedd ei rhieni hefyd wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Dywedodd ei chyfreithiwr Theodore Simon bod penderfyniad y rheithgor yn yr Eidal i’w rhyddhau yn un “dewr”.
Mae disgwyl i Knox ddychwelyd i’w chartref yn Ngorllewin Seattle.
Cafodd Knox, o Seattle, ei charcharu am 26 mlynedd ym mis Rhagfyr 2009, ynghyd â’i chyn-gariad Raffaele Sollecito o’r Eidal, gafodd ei garcharu am 25 mlynedd.
Roedd Sollecito hefyd wedi ei gael yn ddi-euog ddoe ar ôl ei achos apel.
Roedd corff hanner-noeth Meredith Kercher o Coulsdon yn Surrey wedi ei ddarganfod ar 2 Tachwedd, 2007 yn y tŷ roedd hi’n ei rannu gyda Knox tra roedd hi’n astudio dramor am flwyddyn.
Cafodd y gwerthwr cyffuriau Rudy Guede, 24 o’r Traeth Ifori ei garcharu am lofruddiaeth a thrais rhywiol mewn achos ar wahan. Er ei fod o hefyd yn mynnu ei fod yn ddi-euog, cafodd ei apel ei wrthod.