Mae ysbyty yn Yemen wedi cael ei daro gan daflegryn o’r awyr, ac mae o leiaf saith o bobol wedi eu lladd, yn ôl elusen Achub y Plant.
Y gred ydi fod pedwar o’r saith yn blant, a bod dau oedolyn arall hefyd ar goll.
Fe darodd y taflegryn orsaf betrol ger mynediad ysbyty Kitaf, sydd tua 60 milltir o ddinas Saada yng ngogledd orllewin Yemen, am 9.30yb ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 26).
Mae gweithiwr iechyd a’i ddau blentyn, ynghyd â swyddog diogelwch, wedi eu lladd.
Yn ôl Achub y Plant, mae 37 o blant wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn fisol gan daflegrau o dramor dros y flwyddyn ddiwethaf.