Mae mwy na 140 o bobol wedi cael eu lladd gan seiclon yn Mozambique, Zimbabwe a Malawi.
Mae cannoedd o bobol ar goll, a degau o filoedd o bobol wedi’u dal yn y digwyddiad mewn ardaloedd gwledig.
Mae mwy na 1.5m o bobol wedi cael eu heffeithio yn y gwledydd yn ardaloedd deheuol y cyfandir.
Mae maes awyr Beira yn Mozambique ynghau, a nifer sylweddol o lefydd heb drydan a chartrefi wedi cael eu dinistrio.
Fe symudodd y seiclon wedyn i Zimbabwe a Malawi, gan effeithio ar filoedd yn rhagor o bobol.
Mae llifogydd yn y gwledydd i gyd.