Mae llys yng Ngwlad Thai wedi gorchymyn bod un o brif bleidiau’r wlad yn cael ei dileu.

Daw hyn wedi i Blaid Thai Raksa Chart enwebu’r Dywysoges Ubolratana Mahidol yn ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog.

Bellach, ar gais ei brawd – Brenin Maha Vajiralongkorn – mae’r enwebiad wedi cael ei wrthod gan Gomisiwn Etholiadol y wlad.

Bu ymateb o syndod i’r enwebiad gan fod disgwyl i’r frenhiniaeth gadw draw o swyddi gwleidyddol. Hefyd mae Thai Raksa Chart yn cael ei ystyried yn blaid sy’n gwrthwynebu’r frenhiniaeth.

Fydd Thai Raksa Chart ddim yn cael cymryd rhan yn etholiadau cyffredinol Gwlad Thai ar Fawrth 24.

Ac mae’r Llys Cyfansoddiadol wedi gwahardd uwch swyddogion y blaid rhag cymryd rhan ym myd gwleidyddiaeth am ddegawd.