Mae Cardinal yn Ffrainc wedi derbyn dedfryd wedi’i gohirio am gelu honiadau o gam-drin plant.

Mae’r Parchedig Bernard Preynat wedi ei gyhuddo o gam-drin bechgyn ifainc yn yr 1970au ac yr 1980au.

Ac yn ôl yr unigolion a gafodd eu targedu, roedd Cardinal Philippe Barbarin ymhlith y rheiny a gadwodd y gamdriniaeth honedig yn gudd.

Gerbron llys yn Lyon ar ddydd Iau (Mawrth 7), mae’r uwch swyddog wedi ei gael yn euog o beidio ag adrodd manylion i’r heddlu rhwng Gorffennaf 2014 a Mehefin 2015.

Mae’r ddedfryd wedi ei ohirio am gyfnod o chwe mis.

Bydd penderfyniad y llys yn syndod i lawer, gan fod yr erlyniad wedi dadlau yn erbyn ei farnu’n euog – doedd dim modd profi tor-cyfraith, medden nhw.

Mae disgwyl i Bernard Preynat ddod o flaen ei well mewn achos ar wahân.