Gallai awdurdodau Malaysia ddechrau chwilio o’r newydd am awyren MH370 a aeth ar goll bum mlynedd yn ôl.

Daeth yr ymdrechion diweddaraf gan Falaysia, Awstralia a Tsieina i ben fis Mai y llynedd heb fawr o lwyddiant.

Ond mae gobaith y gallai technoleg fodern helpu ymchwiliad newydd, yn dilyn ymdrechion llwyddiannus i ddod o hyd i long danfor o’r Ariannin gan ddefnyddio’r dechnoleg honno.

Aeth awyren MH370 ar goll ar Fawrth 8, 2014 gyda 239 o deithwyr ynddi. Roedd yn teithio o Kuala Lumpur i Beijing ar y pryd.

Cafodd rhai gweddillion eu golchi i’r lan yng Nghefnfor India yn ddiweddarach, ond fe fydd angen bocs du yr awyren cyn gallu darganfod beth ddigwyddodd iddi.

“Dydyn ni ddim wedi colli gobaith,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth Malaysia.

“Rydym yn gobeithio gallu parhau â’r chwilio maes o law.”

Apêl gan y teuluoedd

Mae Voice 370, criw sy’n ymgyrchu ar ran y teuluoedd, yn dweud eu bod yn gobeithio cael newyddion maes o law.

Maen nhw’n galw ar y llywodraeth i neilltuo hyd at 70 miliwn o ddoleri i helpu’r ymdrechion.