Mae Donald Trump a Kim Jong Un yn Hanoi ar drothwy eu hail gyfarfod, wrth i arlywydd yr Unol Daleithiau ddweud ei fod yn “gobeithio am bethau mawr”.

Ar frig agenda’r cyfarfod fydd ceisio ffordd ymlaen i sicrhau bod Gogledd Corea yn cael ei dad-niwcleareiddio.

“Mae gennym gyfarfod mawr iawn ar y gweill heno fel y gwyddoch chi, gyda Gogledd Corea, y Cadeirydd Kim, a dw i’n credu y bydd yn llwyddiannus iawn,” meddai Donald Trump wrth arweinwyr Fietnam.

“Rwy’n edrych ymlaen at y cyfarfod heno gyda’r Cadeirydd Kim a gobeithio y bydd yn llwyddiannus.

“Fe gawn ni weld beth fydd yn digwydd, ond mae e eisiau gwneud rhywbeth mawr.”

Y peth mawr hwnnw, meddai, yw sicrhau bod Gogledd Corea yn dod yn wlad economaidd gref.

Y cyfarfod cyntaf

Daw’r ail gyfarfod wyth mis wedi’r cyfarfod cyntaf yn Singapôr, lle’r oedden nhw wedi methu dod i gytundeb ynghylch dadniwcleareiddio Gogledd Corea.

Treuliodd y wlad ddegawdau’n adeiladu ei harfau niwclear ac yn gyfnewid am ddileu’r arfau hynny, mae lle i gredu bod Gogledd Corea yn galw am ddatganiad gan yr Unol Daleithiau fod Rhyfel Corea ar ben yn swyddogol.

Mae’r diffyg datganiad yn golygu bod pwysau mawr ar economi Gogledd Corea o hyd.

Mae Gogledd a De Corea hefyd am weld sancsiynau’n dod i ben fel bod modd iddyn nhw gydweithio ar nifer o brosiectau cenedlaethol.