“Gwnewch eich dyletswydd” yw neges Theresa May wrth Aelodau Seneddol ar drothwy cyfres arall o bleidleisiau yn San Steffan ar strategaeth Brexit Llywodraeth Prydain.

Mae prif weinidog Prydain yn dweud fod yna “benderfyniad go iawn” ymhlith swyddogion Brwsel i sicrhau cytundeb cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29.

A phe bai ei chytundeb yn cael ei wrthod eto fis nesaf, mae hi bellach yn cyfaddef y gallai Prydain adael heb gytundeb – y tro cyntaf iddi wneud hynny ers dechrau’r trafodaethau.

Ond mewn erthygl yn y Daily Mail, mae’n dweud y dylai’r senedd “ganolbwyntio’n llwyr ar weithio i sicrhau cytundeb ac ymadael ar Fawrth 29”.

Yn yr erthygl honno, mae hi’n lladd ar Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, gan ddweud nad oes modd “ymddiried ynddo i gadw ei addewidion” ynghylch Brexit.

Daw ei sylwadau wrth iddi hi a’i phlaid wynebu’r posibilrwydd o etholiad cyffredinol pe bai’r genedl yn anfodlon ynghylch y ffordd mae hi wedi mynd ati i drafod Brexit.

Gwelliannau

Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar gyfres o welliannau heno (nos Fercher, Chwefror 27), gyda Theresa May yn wynebu “pleidlais ystyrlon” ar y Bil Ymadael unwaith eto fis nesaf.

Ac mae hi wedi cael rhybudd ei bod hi’n wynebu colli’n drwm oni bai ei bod hi’n sicrhau hawliau trigolion wedi Brexit.

Mae lle i gredu bod mwy na 60 o Geidwadwyr yn cefnogi gwelliant gan Alberto Costa yn galw am gytundeb arall gyda’r Undeb Ewropeaidd i ddiogelu hawliau cyn-drigolion gwledydd Prydain hyd yn oed os nad os cytundeb Brexit.

Mae aelodau seneddol Llafur hefyd ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r gwelliant.

Mae gwelliant gan Yvette Cooper (Llafur) yn galw am roi’r hawl i aelodau seneddol ohirio Brexit os yw ei chytundeb yn methu y tro nesaf.